[ ]'r Cusan
1 Hawdd ddamawr ddeulawr ddilyth
2 haeddai fawl i heddyw fyth
3 yn rhagorawl dwywawl daith
4 Rhag doe neu echdoe wychdaith
5 Nid oedd debyg ffrengic ffriw
6 dihuddiant doe i heddiw
7 Nid vn wawd neud anwadal
8 heddyw a doe haeddai dal
9 Ie dduw dad a ddaw dydd
10 vnlliw a heddiw hoew ddydd
11 heddiw y cefais hoew ddawn
12 hyrr i ddoe hwyr i ddawn
13 Cefais werth gwnaeth i'm chwerthin
14 Can-swllt a morc cwnsallt min
15 Cusan fun cyson wyf i
16 Cain luned cann oleuni
17 Calennic lerw ddi erwin
18 Clyw er Mair clo ar ei min
19 Ceidw ynof serch y ferch fad
20 Coel mawr yw cwlm ar gariad
21 Cof a ddaw ynof iw ddwyn
22 Ciried mawr cariad morwyn
23 Coron am ganon genau
24 Caer fyrddin cylch y min mau
25 Cain bas min diorwagserch
26 Cwlm hardd rhwng meinfardd a merch
27 Cynneddf hwn neb nis cennyw
28 Cynnadl dau anadl da yw
29 Cefais ac wi or cyfoeth
30 Corrodyn min dyn mwyn doeth
31 Cryf wyf oi gael yn ael nod
32 Crair min disclaer mwyn dwysglod
33 Criaf ei wawd ddidlawd ddadl
34 Crynais gan y croiw anadl
35 Cwlm cariad mewn tabliad dwbl
36 Cwmpasgaer min campusgwbl
37 Cyd cefais ddidrais ddwydrin
38 heiniar mawl hwn ar ei min
39 Tryssawr yw i'm tri sawr mêl
40 Teiroch i'm os caiff turel
41 Ac os caiff hefyd bryd brau
42 Mursen fyth mawr son fwythau
43 Ni bu ddrwg ei gwg a gaf
44 Lai no dwrn, luned arnaf
45 Inseiliodd a hwyliodd hi
46 Mul oeddwn fy mawl iddi
47 Ni ddaw o'm tafawd wawd-air
48 Mwy er merch berw serch a bair
49 Eithr a ddel vthr wedd wy-lan
50 Ar fyng-hred i luned lan
51 Eiddun anadl cariad-loes
52 O dduw mwy a ddaw i'm oes
53 y rhyw ddydd haul wen-ddydd wiw
54 Em hoew-dyn i'm a heddiw
dd ap Gwilym